SL(5)430 – Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2019

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr llawn-amser sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2019/2020.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd benthyciwr dros fenthyciad at gostau byw o dan amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei gael.

Gweithdrefn

Negyddol.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Nodwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig “Cyllid a chymorth ar gyfer myfyrwyr o’r UE sy'n astudio yng Nghymru” ar 31 Mai 2019. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys y canlynol:

“Bydd myfyrwyr o'r UE sy'n bwriadu astudio yng Nghymru yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21 yn gymwys i'r un ffioedd dysgu â myfyrwyr Cymru, a byddant yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau o Gyllid Myfyrwyr Cymru, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd sydd eisoes yn cael eu defnyddio.

Mae'r penderfyniad hwn yn parhau â'r polisi cyfredol a bydd myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth hyd nes y gorffennant eu cwrs. Mae hyn yn berthnasol i bob opsiwn cyllid sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i fyfyrwyr yng Nghymru y mae myfyrwyr o'r UE yn gymwys i'w gael. Mae'n cynnwys benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu (i'r rheini sy'n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ers tair blynedd), benthyciadau a grantiau cynhaliaeth (sydd ond ar gael i'r rheini sy'n byw yn y DU ers o leiaf tair blynedd), a rhai grantiau a lwfansau eraill.

Nid yw'r rheolau ar gyfer myfyrwyr o'r UE a fydd yn gwneud cais am le mewn prifysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 i ddilyn cwrs lle rhoddir cymorth i'r myfyrwyr wedi newid. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn asesu'r ceisiadau hyn ar sail y meini prawf cymhwysedd, ac yn darparu benthyciadau a/neu grantiau yn y ffordd arferol. Bydd myfyrwyr o'r UE, neu aelodau o'u teuluoedd, yr asesir eu bod yn gymwys i gael grantiau a/neu fenthyciadau yn parhau'n gymwys tra byddant yn astudio ar y cwrs hwnnw.”

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

3 Gorffennaf 2019